CEFNOGAETH A DOLENNI

Mae nifer o fudiadau yn gweithio yn y sector ynni cymunedol yng Nghymru a ledled y DG sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor defnyddiol i fentrau newydd:

  • Community Energy Scotland
  • Community Energy England
  • Ynni Cymunedol Cymru
  • Mae Adfywio Cymru yn darparu cefnogaeth Cymheiriaid i unrhyw grwpiau sydd am gymryd camau mentrus ar newid hinsawdd. Gall Adfywio Cymru gefnogi unrhyw fath o brosiect cyn belled â'i fod yn mynd i'r afael ag achosion neu effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae'n gallu gwneud hyn drwy ei rwydwaith Mentoriaid Cymheiriaid sy'n gallu cynnig cyngor hyblyg a phenodol yn seiliedig ar eich gofynion. Mae hyn yn cynnwys cefnogi ystod eang o Brosiectau Ynni Cymunedol. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion yma.
  • Mae gan Fancio Cymunedol Robert Owen gyllid ar gael i gefnogi cymunedau yng Nghymru i yrru prosiectau ynni yn eu blaen. Datblygwyd y Gronfa Ynni Cymunedol ar y cyd â’r Loteri Fawr ac Ynni Cymunedol Cymru, i roi’r cymorth ariannol mae prosiectau cymunedol ei angen i fynd o’r cam dichonolrwydd i osod y cynllun. Mae’r Gronfa Ynni Cymunedol yn cynnig math o gyllid mesanîn sy’n talu costau risg uchel cychwynnol datblygu cynllun. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion.
  • Ynni Lleol. Mae Gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol a thechnegol i helpu mentrau cymdeithasol a busnesau bach a chanolig ledled Cymru i ddatblygu eu cynlluniau ynni adnewyddadwy eu hunain. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion.
  • Mae Ynni Lleol (Energy Local) wedi cynllunio dull o roi grym i’r farchnad leol trwy Glybiau Ynni Lleol. Mae hyn yn galluogi aelwydydd i ddod at ei gilydd i ddangos pryd y maent yn defnyddio ynni glân lleol pan gaiff ei gynhyrchu. Mae'r cynllun yn rhoi gwell pris i gynhyrchwyr am yr ynni y maent yn ei gynhyrchu, sy'n adlewyrchu ei wir werth, yn cadw mwy o arian yn lleol ac yn lleihau biliau trydan cartrefi.
  • Mae Adnoddau Effeithlon Cymru yn wasanaeth gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu un pwynt cyswllt i bobl (domestig, busnes, cymunedol, gwirfoddol a'r sector cyhoeddus) ar gyfer cymorth ar ddefnyddio adnoddau (ynni, deunyddiau a dŵr) yn fwy effeithlon. Cliciwch ymai gael rhagor o fanylion.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynigion cyfranddaliadau buddsoddi cymunedol posibl yna ewch i Rwydwaith Buddsoddi Cymunedol Cymru yn CyfranNi | Ynni Cymunedol Cymru

Mae Sharenergy Sharenergy | generating renewable energy co-ops hefyd yn rhannu gwybodaeth am gyfleoedd i fuddsoddi mewn ynni cymunedol