Vestas

Peiriant Vestas 75kW yw tyrbin gwynt cyntaf Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Ddyfi (BDCR), a brynwyd yn ail law a’i osod yn 2003 ar y bryn uwchlaw Canolfan y Dechnoleg Amgen, ger Machynlleth, Cymru.

Yn wreiddiol, roedd y tyrbin yn cyflenwi CDA, a’r ynni dros ben yn mynd i’r rhwydwaith ddosbarthu ynni leol. Ar hyn o bryd, mae’r holl ynni’n mynd i’r grid.

Cafodd y tyrbin ei osod ac roedd yn eiddo i 55 cyfranddaliwr arloesol BDCR.

Talwyd am gyfran o’r cyfranddaliadau gan grant gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Mae’r elw o’r cyfranddaliadau hyn yn mynd i gronfa ynni cymunedol sy’n cael ei gweinyddu gan ecodyfi i ariannu mesurau effeithlonrwydd ynni ym Mro Ddyfi.

Cafwyd grantiau eraill gan Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd Scottish Power a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Sut rydym yn cyfrifo’r allbwn ynni a’r manteision amgylcheddol

Mae mesuryddion yn yr is-orsafoedd sy’n cefnogi’r tyrbinau gwynt. Mae pob cilowat-awr sy’n cael ei gynhyrchu yn mynd i’r grid dosbarthu lleol trwy’r is-orsafoedd lle mae’r trosglwyddyddion wedi’u lleoli. Mae’r mesuryddion yn cofnodi’r allbwn a chaiff hyn ei anfon trwy linell ffôn bob hanner awr i Ofgem. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r taliad rydym yn ei dderbyn am yr ynni bob mis.

Rydym wedi cyfrifo’r ffigwr ar gyfer y nifer cyfatebol o aelwydydd domestig yn flynyddol ar sail defnydd trydan domestig blynyddol cyfartalog o tua 3,500kWhr, ffigwr rydym wedi’i gael o’r ffigyrau defnydd a gyhoeddwyd yng Nghrynhoad Ystadegau Ynni’r Deyrnas Gyfunol ar gyfer ardal Powys.

Rydym yn rhannu’r swm blynyddol a gynhyrchir gan gyfartaledd defnydd gan aelwydydd i gyfrif faint o aelwydydd cyfatebol fyddai allbwn y tyrbinau yn eu cyflenwi.

Mae pob kWhr o drydan glân a gynhyrchir trwy ynni adnewyddadwy yn lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil. Felly mae pob kWhr o ynni adnewyddadwy yn arwain at ostyngiad yn y nwyon tŷ gwydr a achosir gan gynhyrchu trydan trwy danwydd ffosil. Y ffigwr ar gyfer arbed carbon deuocsid rydym ni’n ei ddefnyddio yw’r ffigwr sy’n cael ei dderbyn gan y diwydiant ynni, sef arbed 275g o garbon deuocsid i bob kWhr o ynni glân a gynhyrchir.