EIN TYRBINAU

Ar y bryn uwchlaw Dyffryn Dulas yng nghanolbarth Cymru, mae’r tyrbinau cymunedol yn aml i’w gweld yn troi yn y gwynt, gan greu ynni sy’n bwydo i mewn i’r rhwydwaith ynni lleol.

Ni oedd un o’r mudiadau cyntaf yn y DG i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol. Ar ein hôl ni, mae nifer o brosiectau ynni cymunedol eraill wedi cychwyn, yn aml gyda chyfansoddiad a phrofiadau gwahanol.

Vestas V17

Roedd ein tyrbin gwynt cymunedol cyntaf, Vestas V17 75kW ail law o Ddenmarc, yn ei le ac ar waith yn 2003 trwy fuddsoddiad a gafwyd trwy gynnig cyfranddaliadau a grant gan Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Green Energy Trust, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ac ecodyfi.

MAE RHAGOR O WYBODAETH AR DUDALEN VESTAS

Nordtank

Ar ôl cryn ymdrech, cychwynnodd ein hail dyrbin gwynt (peiriant Nordtank 500kW ail law, eto o Ddenmarc) gynhyrchu ynni yn Rhagfyr 2010.

Mae ‘Nora’, fel rydym yn ei hadnabod, wedi bod yn perfformio’n well na’r disgwyl, diolch i’r gwynt arbennig!

MAE RHAGOR O WYBODAETH AR DUDALEN NORDTANK