EGINIAD

EGINIAD

Sesiynau ioga i blant ysgol gynradd ym Mhennal a Chorris

Cymerodd y disgyblion ran mewn sesiynau ioga dan arweiniad Jess fel rhan o Weithdai Eginiad Cymru. Fe’u hariannwyd gan Gronfa Ynni Cymunedol BDCR. Drwy symudiad, anadlu a llais, fe wnaethant ddysgu ffyrdd syml o ymlacio, canolbwyntio a meithrin hyder. Roedd y sesiynau’n llawn egni ac ymatebodd y plant â brwdfrydedd.

“Roedd yr adborth a gafwyd gan y bobl ifanc, y rhieni a'r athrawon yn hynod gadarnhaol, a gofynnwyd a oes modd cyflwyno mwy o ioga yn yr ysgol. Dywedodd un plentyn 6 oed wrth ei fam amser gwely: “Dwi’n poeni llai heddiw oherwydd bod yr ioga wedi fy ymdawelu”.