PAM WNAETHOM NI HYN?

Mae’r dudalen hon yn esbonio’r prif gamau wrth sefydlu BDCR, a gosod y tyrbin cyntaf, y Vestas 75kW.

Sgroliwch i lawr i ddarllen y stori am sut aethom ni ati!

MAE RHAGOR O WYBODAETH AM Y DDAU DYRBIN AR GAEL AR Y DUDALEN TYRBINAU

Creu “cerbyd” cymunedol i gymryd cyfrifoldeb am y prosiect a’i yrru yn ei flaen

Cafodd cwmni anghorfforedig o’r enw The Dulas Valley Community Wind Partnership (DVCWP) ei greu yn yr ail gyfarfod cyhoeddus. Talodd pobl £10 yr un i ariannu’r costau datblygu – yn bennaf ffi’r cais cynllunio a chostau llunio’r cais a’r datganiad amgylcheddol. 

Roedd barn leol yn amrywio o hynod gefnogol i ofalus yn y cyfarfod cyhoeddus cyntaf, gyda rhywfaint o bryder am yr effaith weledol a sŵn.  

Roedd y mwyafrif yn falch o’r syniad o bobl leol yn manteisio ar ynni gwynt, yn hytrach na datblygwyr o du allan i’r ardal. Roedd un aelwyd wedi mynegi gwrthwynebiad mawr, ond wedi symud o’r ardal cyn i’r prosiect ddwyn ffrwyth. Roedd unigolyn o du allan i’r gymuned wedi siarad yn erbyn tyrbin gwynt yn yr ail gyfarfod, ond daeth i’r casgliad na fyddai’n cychwyn ymgyrch yn ei erbyn gan y gallai weld y gefnogaeth, a’i fod yn dyrbin gweddol fach.

Ymchwil pellach ac ymgais i gynyddu aelodaeth

Cafwyd ymdrechion i gynyddu aelodaeth y Mudiad trwy’r wasg leol, ar lafar a thrwy roi taflenni mewn llefydd fel y neuadd bentref ac yn y cynllun blychau llysiau.  

Rhoddwyd cyfrifoldeb dros reoli a datblygu’r broses i dri am gyfnod, yn cynnwys dewis tyrbin a dylunio’r system, yn gyfnewid am ychydig o arian ac addewid o gyfranddaliadau.  

Serch hynny, rhoddwyd swm sylweddol o amser ganddynt hwy ac unigolion eraill.

Trafodaethau â pherchnogion y safle oedd yn cael ei ffafrio

Y bwriad ar y pryd oedd gosod tyrbin 30kW ger y tyrbin 15kW oedd eisoes uwchlaw CDA. Cyfrifwyd y byddai 30 kW yn ddigon o ddarparu digon o ynni ar gyfer y rhan fwyaf o anghenion CDA, gyda’r gweddill ar gael i’w drosglwyddo i wres. Ni chredwyd y byddai llawer ar ôl i’w drosglwyddo i’r grid, felly doedd uwchraddio’r grid lleol gwan ddim yn bryder mawr ar y pryd.

Ymddiriedolaeth oedd yn berchen ar y tir, a dim ond un o’r pedwar oedd yn gwneud penderfyniadau oedd yn lleol. Roedd hyn yn ei gwneud yn anodd cyfathrebu’n effeithiol.

Sicrhau cymorth grant

Bu ecodyfi’n llwyddiannus gyda chais i Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower am grant yn ychwanegol at yr un a sicrhawyd eisoes gan y Comisiwn Ewropeaidd (ERDF).  

Ymgorfforodd Asiantaeth Ynni Powys y prosiect mewn cytundeb ariannu a gafodd gyda'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST). Defnyddiwyd rhan o'r arian EST fel grant cyfalaf a’r gweddill i brynu cyfranddaliadau. Cafodd y rhain eu rhoi yn y Gronfa Ynni Cymunedol leol, sy'n ceisio lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Llunio a chyflwyno cais cynllunio (gan gynnwys Asesiad Effaith Amgylcheddol manwl); trafod gyda chynllunwyr lle bo hynny'n briodol

Treuliwyd amser sylweddol ar y cais cynllunio gan bedwar gweithiwr proffesiynol lleol, nad oeddent yn codi tâl ar y pryd, ond a gafodd eu gwobrwyo â chyfranddaliadau yn y pen draw fel ad-daliad am eu gwaith ar y dirwedd, sŵn a gwaith rhagfynegi arall.

Sicrhau caniatâd cynllunio gyda newidiadau heb eu rhagweld i’r cynllun (er mwyn gallu archebu’r tyrbin pan fyddai’r arian ar gael)

Dim ond un llythyr a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r cais cynllunio. Roedd Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwrthwynebu ar y sail y byddai i’w weld o’r Parc a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn mynegi rhai amheuon.

Er gwaethaf addewidion blaenorol, daeth yn amlwg na fyddai’r tyrbin 30kW oedd yn cael ei ddatblygu yn yr Almaen ar gael yn y DG yn ddigon buan ar gyfer y prosiect. Dyfarnwyd tyrbin 2 lafn arall yn annerbyniol gan y swyddog cynllunio. Y dewis arall agosaf oedd tyrbin 50kW o’r UDA, felly ail-gyfrifwyd y costau ac addaswyd y cynllun ar sail hynny. Pan wrthwynebodd y swyddog cynllunio’r tŵr latis oedd yn dod yn safonol, edrychwyd ar y posibilrwydd o gomisiynu tŵr tiwb addas yn y DG. Yn y pen draw, roedd hyn a’r newid cyson yn y gyfradd gyfnewid ar gyfer y ddoler yn golygu fod y costau’n uwch na’r gyllideb, a newidiwyd y cynllun i gael tyrbin 75 kW ail law o Ddenmarc. Derbyniwyd hyn fel newid i’r cais.

Cefnogaeth perchnogion y safle newydd

Roedd allbwn mwy y tyrbin 75kW yn golygu fod angen cryfhau’r cyswllt capasiti isel rhwng CDA a’r grid lleol er mwyn gallu ymdopi â’r ynni dros ben. Creodd hyn broblem i’r perchennog tir, oedd hefyd yn berchen ar y tir fyddai angen ar gyfer y gwifrau. Yn y pen draw, tynnodd ei gefnogaeth yn ôl, a sicrhawyd safle arall i’r tyrbin ar dir y Comisiwn Coedwigoedd (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) gerllaw, a chael cefnogaeth yr awdurdod cynllunio. Roedd hyn yn golygu ail-gynllunio’r cylchedau trydanol, gyda llwybr hirach i’r gwifrau o’r tyrbin i CDA yn croesi tir dwy fferm ac angen trosglwyddyddion ychwanegol.

Bu Forest Enterprise yn gymwynasgar yn cwympo coed i helpu gyda chreu ffordd fynediad fer oddi wrth ffordd oedd yn bodoli trwy’r coed. Cytunwyd hefyd ar drwydded fynediad dros dro ar gyfer y gwaith adeiladu a les hirach gyda rhent blynyddol “anfasnachol”. Roedd y prosiect yn unol â strategaeth Coetiroedd i Gymru ar gyfer cynnwys cymunedau mewn coetiroedd.

Dewisodd y ddau ffermwr gymryd arian yn hytrach na’r cyfranddaliadau a gynigiwyd ar gyfer eu partneriaeth.

Trafod telerau gwerthu trydan

Er bod y ceblau newydd (o’r tyrbin, trwy bwynt cysylltu oedd yn bodoli â’r grid, ac ymlaen i CDA) yn ei gwneud yn bosibl i’r grŵp gyflenwi trydan i’r grid lleol os byddai angen, cadwyd at y model gwreiddiol o gael un defnyddiwr.

Roedd hyn yn cynnig sicrwydd o gytundeb tymor hir mewn marchnad gyfnewidiol ar adeg pan oedd y farchnad drydan ei hun yn gweld newid sylweddol. Roedd hefyd yn cynnal y bartneriaeth gyda CDA. 

Roedd tair haen brisiau i'r cytundeb prynu, i adlewyrchu'r defnydd o'r ynni. Mae gwerth uchel i'r gyfran gyntaf a gynhyrchir (y flwyddyn) oherwydd ei fod yn disodli trydan a fyddai fel arall yn cael ei brynu i mewn neu’n cael ei gynhyrchu'n ddrud ar y safle. Mae pris yr ail gyfran yn adlewyrchu gwerth tanwydd gwresogi, ac mae gwerth is i unrhyw gynhyrchu dros ben, sy'n cynrychioli "ynni dros ben" i'r grid.  

Rhoddwyd hawliau dros unrhyw fudd-daliadau ynni adnewyddadwy i CDA. Fel y daeth i’r amlwg, roedd hyn yn werth llawer mwy yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu na'r disgwyl, gan i werth Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy fod yn uwch na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol.

Archebu tyrbin gwynt a chyhoeddi contractau ar gyfer adeiladu a chomisiynu

Roedd un aelod yn beiriannydd ymarferol oedd â phrofiad gyda thyrbinau gwynt. Yn y pen draw, ef oedd aelod arweiniol y tîm adeiladu. Ond cyn hynny, cafodd ei anfon i Ddenmarc gan y grŵp i archwilio'r tyrbin arfaethedig ac i drafod gwaith adnewyddu hanfodol. Gwnaed hyn rhain gan y gwneuthurwr gwreiddiol (Vestas) cyn ei gludo, ar wahân i baentio'r tŵr. Gwnaed hyn gan aelodau gwirfoddol ar ôl iddo gyrraedd.

Anfonwyd gwahoddiadau i dendro i gwmnïau peirianneg sifil perthnasol, er y gobeithiwyd y byddai consortiwm o CDA ac unigolion lleol (fel gyrrwr JCB) yn cael ei ffurfio ac yn gwneud cais. Yn y diwedd, rhoddwyd y contract i CDA, a roddodd is-gontractau'n lleol. Dewisodd rhai isgontractwyr gymryd cyfranddaliadau yn hytrach nag arian parod, fel y gwnaeth CAT Consultancy (ar gyfer eu helfen elw).

Ymestyn aelodaeth y grŵp cymunedol o fewn y gymuned leol trwy weithgareddau marchnata a chofrestru’r grŵp fel Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus

Roedd angen endid cyfreithiol gydag atebolrwydd cyfyngedig, felly crëwyd Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Ddyfi (BDCR).

Awgrymodd cyfreithiwr arbenigol y dylid cofrestru o dan y Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus yn hytrach na’r Ddeddf Cwmnïau, yn bennaf gan fod y Rheolau wedi’u llunio i roi un bleidlais i bob aelod, yn hytrach nag un i bob cyfran.

Mae modelau cyfansoddiadol eraill yn bodoli ar gyfer perchnogaeth gymunedol.  

Denu Cyllid digonol trwy gyfranddaliadau

Cyflwynodd y Clwb Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy (REIC) y cynnig cyfranddaliadau i’w aelodau, ar sail y wybodaeth a gafodd gan BDCR. Gwnaeth BDCR gyflwyniad i aelodau’r REIC yn lleol mewn cyfarfod arbennig.

Roedd holl aelodau DVCWP aelodaeth am ddim o’r REIC, gan mai hwn fyddai prosiect peilot REIC. Sefydlwyd REIC gan Dulas Ltd a Groundwork Bridgend yn ystod prosiect gyda nawdd Ewropeaidd i hwyluso prynu cyfranddaliadau mewn prosiectau ynni adnewyddadwy (gan unigolion cymwys), lle byddai cyflwyno prosbectws i’w cyhoedd yn rhy ddrud.

Cytunodd Cwmni Cydweithredol Baywind Energy i warantu'r cynnig – byddent yn prynu unrhyw gyfranddaliadau fyddai heb eu gwerthu. Roedd hyn yn rhoi hyder i'r grŵp fwrw ymlaen. Yn y pen draw, roedd gormod o alw am gyfranddaliadau, a bu'n rhaid cyfyngu unigolion i £1,000 yr un. Pennwyd yr isafswm cyfranddaliadau ar £100.

Comisiynu'r tyrbin a'i gysylltu â'r grid

Bu oedi am sawl mis pan oedd popeth yn barod ar wahân i gysylltu â’r grid. Un o'r problemau oedd y diffyg eglurhad am y cyfrifoldebau rhwng CDA (fel contractwr adeiladu oedd yn gyfrifol am archebu'r cysylltiad grid gan Manweb) a BDCR (oedd â'r prif gyfrifoldeb am gytundebau’r tirfeddiannwr), a Manweb yn sgil hynny’n tybio y gallent ddefnyddio dulliau gweithio na chytunwyd arnynt gyda'r tirfeddiannwr.  

Cafwyd arall o oedi yn sgil mater oedd yn bodoli eisoes rhwng Manweb a thirfeddiannwr nad oedd yn gysylltiedig â'r prosiect.

Cynnal digwyddiad lansio cyhoeddus

Roedd hwn yn ddiwrnod gwych, gydag ymdeimlad gwych o ddathlu ac achlysur.

Gweinyddu BDCR

Wrth redeg prosiect ynni cymunedol, mae'n hanfodol bod ystyriaeth yn cael ei roi i redeg a gweinyddu'r sefydliad yn barhaus.

Yn ddelfrydol, yn ein barn ni, dylid sianelu cyfran o’r incwm cynhyrchu tuag at gyflogi rhywun yn lleol yn rhan-amser i redeg materion y busnes... peidiwch ag anghofio ei fod yn fusnes a'i fod er budd yr Aelodau (os mai dyma'ch model chi) i sicrhau rheolaeth dda fel bod y prosiectau'n cael eu rhedeg yn effeithiol yn ystod eu hoes.