PAM WNAETHOM NI HYN?
Am ei fod yn bwysig i ni fel cymuned. Mae’r amgylchedd yn bwysig i ni, mae pobl yn bwysig i ni, ac rydym yn poeni am ein bywydau nawr ac yn y dyfodol. Mae BDCR yn gynnyrch uniongyrchol dymuniad cymuned i helpu’r blaned, dynoliaeth a’n cymuned.
Mae Dyffryn Dyfi wedi gweld bwrlwm o syniadau a mentrau gwyrdd dros y tri degawd diwethaf, ac wrth i bryderon amgylcheddol ddod yn fwy amlwg.
Daeth y syniad gwreiddiol ar gyfer tyrbin gwynt cymunedol gan un o’r trigolion lleol yn 2000 oedd, ar y pryd, yn Gyfarwyddwr gwirfoddol ar y Baywind Energy Co-op, ac oedd â phrofiad proffesiynol o ddatblygu ynni gwynt. Roedd wedi gweithio i Dulas Ltd, cwmni ynni adnewyddadwy o Fachynlleth, ond roedd am i’r gymuned ei hun ddatblygu a bod yn berchen ar gynllun.
Roedd Canolfan y Dechnoleg Amgen (CDA) yn frwdfrydig iawn am y cynllun. Nhw fyddai’n debygol o ddefnyddio’r ynni o’r tyrbin, gydag enghraifft arloesol o ddatblygu ynni gwynt yn fanteisiol ar gyfer addysgu ymwelwyr, ac yn sicrhau cyflenwad o ynni adnewyddadwy.
Cafwyd cyngor ar y broses a chymorth grant posibl o’r cychwyn gan ddau arbenigwr proffesiynol lleol: un yn gweithio i’r grŵp adfywio cymunedol lleol (ecodyfi) a’r llall i Asiantaeth Ynni Powys (bellach yn rhan o SWEA).
Roedd y cyntaf yn rhedeg prosiect ymbarél gydag arian y CE i annog cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol. Bu’r ddau yn cwrdd â dau unigolyn arall o’r ardal oedd â diddordeb i weld beth oedd yn bosibl a sut i yrru cynllun posibl yn ei flaen, yn cynnwys cynnal cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Neuadd Bentref Pantperthog.